Tudalen Gymraeg

Amdanom Ni

Cwmni cyfreithiol Ne Gorllewin Cymru yw Morgan LaRoche.  Sefydlwyd ein swyddfa wreiddiol yn Abertawe ond agorwyd swyddfa yng Nghaerfyrddin yn 2015 yn ôl y galw.

Un o brif amcanion Morgan LaRoche yw sicrhau ein bod yn teilwra ein cyngor cyfreithiol i ddiwallu anghenion bob cleient.  Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau cyfreithiol o’r safon uchaf i unigolion neu fusnesau ac mae’n hanfodol inni fel cwmni ddeall gofynion ein cleientiaid er mwyn sicrhau ein bod yn meithrin partneriaethau hirdymor a chadarn gyda’n cleientiaid.

Rydym yn dîm sy’n ymroi o’n gorau i’n cleientiaid ar bob achlysur, ac mae darparu gwasanaethau o’r radd flaenaf yn sicr yn ganolog i bopeth a wnawn.  Rydym yn hynod falch o’r modd rydym yn gweithredu yn ymarferol er mwyn sicrhau’r datrysiadau gorau posib i bob cleient.

Tra bod nifer ohonom yn rhugl yn y Gymraeg, rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu a chynnig gwasanaeth i’n cleientiaid trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac rydym yn ymroddedig i weithredu ar hynny.  Wrth ddweud hyn, ceisiwn sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal yn y gweithle lle bo hynny’n rhesymol bosibl a phriodol, gweler ein polisi Iaith Gymraeg.

Fel cwmni, ymfalchïwn yn ein gallu a’n parodrwydd i drafod materion cyfreithiol yn y Gymraeg gyda’n cleientiaid, gyda hynny mor ffurfiol neu anffurfiol yn ôl gofyn bob cleient.  Mae gennym gyfreithwyr yn y mwyafrif o feysydd cyfreithiol sy’n medru cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg yn cynnwys cyfraith corfforaethol a masnachol, cyfraith tir a thir masnachol, ymgyfreitha, datrys anghydfodau yn ogystal âg anghydfodau tir.

Mae’r unigolion canlynol yn rhugl yn y Gymraeg ac sy’n hapus i drafod materion cyfreithiol trwy gyfrwng y Gymraeg:

  1. Kevin Thomas (cyfarwyddwr) – Cyfraith tir masnachol.
  2. Christopher Evans (cyfarwyddwr) – Cyfraith masnachol a chorfforaethol.
  3. Llyr Davies (cyfarwyddwr) – Ymgyfreitha.
  4. Ann Thomas (cyfarwyddwraig) – Cyfraith tir masnachol.
  5. Alun Price (cyfarwyddwr) – Cyfraith tir masnachol.
  6. Carys Wilson (cyfarwyddwraig cyswllt) – Cyfraith tir masnachol.
  7. Cassie Greville (cyfrarwyddwraig cyswllt) – Cyfraith teulu.
  8. Rhys Thomas (cyfarwyddwr cyswllt) – Cyfraith tir masnachol.
  9. Mark Ellis-Jones (cyfreithiwr cyswllt) – Cyfraith tir masnachol.
  10. Fiona Phillips (cyfreithwraig) – Cyfraith corfforaethol a masnachol.
  11. Gwennan Jones (cyfreithwraig) – Cyfraith tir masnachol.
  12. Rhys Ap Gwent (cyfreithiwr) – Cyfraith masnachol.
  13. Carys Thomas (cyfreithwraig dan hyfforddiant).
  14. Ffion Thomas (cyfreithwraig dan hyfforddiant).
  15. Grant Jones (cyfreithiwr dan hyfforddiant).
  16. Gwenllian Owen (cyfreithwraig dan hyfforddiant).

Ymholiadau:

01972 776776 (Abertawe) neu 01267 493 110 (Caerfyrddin)

E-bost: [email protected]