Ynglŷn â Sara
Cwblhaodd Sara ei hyfforddiant yn Morgan LaRoche, lle cafodd brofiad yn yr adrannau Eiddo Masnachol, Corfforaethol, Cyfreitha Masnachol a Theulu cyn cymhwyso fel Cyfreithiwr yn y tîm Corfforaethol ym mis Mai 2026.
Enillodd Sara brofiad o gynghori cleientiaid ar ystod eang o faterion corfforaethol a masnachol ac mae wedi bod yn rhan o amryw o drafodion, gan gynnwys uno a chaffael, ffurfio cwmnïau, ad-drefnu, a chytundebau cyfranddalwyr a phartneriaeth.
Mae Sara yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn gallu cynghori cleientiaid yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Profiad Proffesiynol
- Cyfreithiwr Cymwysedig - Mai 2026
Addysg
- LLM Ymarfer Cyfreithiol – Prifysgol Abertawe 2023-2024
- LLB y Gyfraith a'r Gymraeg gyda blwyddyn lleoliad proffesiynol – Prifysgol Caerdydd 2019-2023
Hyfforddiant
- Morgan LaRoche – Contract Hyfforddi Medi 2024
