Mae ein tîm Eiddo Masnachol yn darparu cyngor arbenigol mewn ystod gynhwysfawr o feysydd gan gynnwys: –
- Pryniannau a gwarediadau.
- Prydlesi.
- Datblygiad.
- Egni.
- Cynllunio.
- Amgylchedd.
- Adeiladaeth.
- Cyllid.
- Amaethyddiaeth.
- Ymgyfreitha eiddo.
Mae gennym dîm profiadol o gyfreithwyr eiddo sy'n deall y farchnad eiddo masnachol a'r gyrwyr allweddol y tu ôl i fargeinion. Rydym yn darparu cyngor cyfeillgar a rhagweithiol sydd wedi'i deilwra i anghenion ac amcanion penodol pob cleient mewn modd cost effeithiol.
Rydym yn gweithredu ar ran ystod amrywiol o gleientiaid gan gynnwys manwerthwyr cenedlaethol, datblygwyr eiddo a buddsoddwyr, banciau a chymdeithasau adeiladu, cwmnïau logisteg, gweithredwyr cartrefi gofal a nyrsio, cymdeithasau tai, sefydliadau'r sector cyhoeddus ac unigolion preifat sy'n meddiannu, buddsoddi mewn a datblygu eiddo.