Sectorau Busnes

Mân-werthu

Rydym yn deall bod y sector manwerthu yn ddeinamig a bod trafodion yn aml yn cael terfynau amser heriol. Rydym yn cynghori cleientiaid ar y ffyrdd mwyaf effeithlon o strwythuro, datblygu a diogelu eu busnesau mewn modd sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion a'u hamserlenni penodol.

Rydym yn cynghori manwerthwyr, perchnogion, buddsoddwyr a datblygwyr ar ystod eang o faterion, gan gynnwys:

  • Prynu a gwerthu busnesau.
  • Ailstrwythuro busnes.
  • Treth.
  • Cyflogaeth.
  • Anghydfodau.
  • Eiddo deallusol.
  • Prydlesi.
  • Gwerthu a Chaffaeliadau Portffolio.
  • Prosiectau Datblygu.
  • Cytundebau nawdd.
  • Cydymffurfiad rheoleiddiol.
  • Iechyd a Diogelwch.
  • Trwyddedu.

Mae ein cleientiaid yn cynnwys manwerthwyr y stryd fawr, clybiau rygbi rhanbarthol, gwestai, bwytai, lleoliadau priodas, clybiau iechyd a chyrsiau golff.

Mae gan ein Tîm Eiddo Masnachol brofiad sylweddol yn y sector manwerthu ac fe'n cyfarwyddir yn rheolaidd i weithredu ar ran manwerthwyr a datblygwyr mewn perthynas â siopau bwyd gwerth miliynau o bunnoedd a datblygiadau defnydd cymysg ledled Cymru a Lloegr.

Cysylltiadau Allweddol

Isod mae rhestr o'n cyfreithwyr a all eich helpu gyda'r Sector Busnes Manwerthu...