Mae ein tîm Corfforaethol a Masnachol profiadol yn rhoi cyngor ar eiddo deallusol i ystod eang o gleientiaid gan gynnwys busnesau newydd, cwmnïau deillio, busnesau bach a chanolig, a chwmnïau rhyngwladol.
Yn syml, mae 'eiddo deallusol' yn golygu creadigaethau anniriaethol y meddwl. Mae'r rhain yn cynnwys dyluniadau, cynlluniau, testun, cod meddalwedd, cronfeydd data a gwybodaeth arbenigol. Mewn llawer o achosion, mae asedau eiddo deallusol yn ffurfio rhan sylweddol o werth busnes. Er mwyn cynnal mantais gystadleuol wrth fasnacheiddio ei eiddo deallusol, mae'n hanfodol bod busnes sy'n gyfoethog mewn asedau eiddo deallusol yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i'w sicrhau. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd diffinio a diogelu asedau eiddo deallusol, trwy gynghori ar faterion fel cytundebau cyfrinachedd, ceisiadau am nodau masnach, yn ogystal â thrwyddedau eiddo deallusol, aseiniadau a chytundebau breindaliadau. Mae'r rhain yn cynnig amddiffyniad cyfreithiol cadarn rhag colli rheolaeth dros eiddo deallusol, neu dorri hawliau gan drydydd partïon.
Yn aml, bydd busnesau’n creu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, heb roi ystyriaeth ofalus i berchnogaeth yr eiddo deallusol sylfaenol sy’n cael ei gynhyrchu. Felly, rydym yn cynnig gwasanaeth o gynnal archwiliadau eiddo deallusol, lle rydym yn dadansoddi asedau neu gynhyrchion busnes, ac yn adolygu dilyniant y digwyddiadau a’r dogfennau cytundebol sy’n llywodraethu eu creu, er mwyn nodi, diffinio a sefydlu perchnogaeth yr holl hawliau eiddo deallusol, megis hawlfraint, nodau masnach, gwybodaeth arbenigol a chyfrinachau masnach. Yna rhoddir cyngor a chymorth ar y ffordd orau o sicrhau, amddiffyn a manteisio ar yr hawliau eiddo deallusol a nodwyd yn yr archwiliad.
Mae'r materion cyffredin y gallwn roi cyngor arnynt yn cynnwys:
- Hawliau eiddo deallusol a'u perchnogaeth;
- Nodau masnach a brandio;
- Cytundebau Ymchwil a Datblygu;
- Hawliau delwedd;
- Cytundebau dylanwadwyr a marchnata cysylltiedig;
- Polisïau gwefan a chyfryngau cymdeithasol;
- Trwyddedau meddalwedd a chytundebau SAAS;
- Cytundebau masnachfraint;
- aseiniadau IP;
- cytundebau trwydded IP; a
- Cytundebau breindaliadau.

