Sectorau Busnes

Awdurdod Lleol

Mae heriau cyfraith gyhoeddus yn golygu bod Awdurdodau Lleol yn gweithredu mewn amgylchedd cyfreithiol gwahanol i gleientiaid y sector preifat, yn enwedig o ystyried baich cydymffurfio rheoleiddiol. O'n hanes hir o gynghori cyrff cyhoeddus, rydym yn deall ac yn gwerthfawrogi'r cyfyngiadau a'r heriau penodol sy'n wynebu awdurdodau o'r fath.

Mae hyn, ynghyd â'n hymwybyddiaeth o ystyriaethau allweddol cleientiaid y sector preifat, yn ein galluogi i ddarparu cyngor rhagweithiol ac arloesol sy'n canolbwyntio ar y gyrwyr masnachol allweddol y tu ôl i drafodion, tra'n diogelu a bodloni anghenion yr Awdurdod Lleol.

Rydym yn gweithredu ar ran nifer o Awdurdodau Lleol ledled Cymru ac yn darparu cyngor ar ystod amrywiol o feysydd gan gynnwys:

  • Prosiectau Datblygu.
  • Cyfraith Gynllunio gan gynnwys cytundeb cynllunio statudol.
  • Gofynion caffael yr UE.
  • Adolygiad barnwrol o swyddogaethau gweinyddol.
  • Gwasanaethau plant.
  • Cydymffurfio rheoleiddiol.
  • Iechyd a Diogelwch.
  • Anghydfodau masnachol.
  • Cyflogaeth.
  • Anghydfodau landlord a thenantiaid.

Mae enghreifftiau o drafodion diweddar yr ydym wedi'u gwneud yn y sector hwn yn cynnwys:

  • gweithredu ar ran Cyd-Fenter Glannau Llanelli (Cyngor Sir Caerfyrddin/Llywodraeth Cynulliad Cymru) mewn perthynas ag adfywio arfordir Llanelli – mae'r ardal adfywio yn gorchuddio dros 100 erw gyda'r bwriad o gael dros 1,000 o gartrefi; 500,000 troedfedd sgwâr o ddatblygiad busnes/swyddfa a dros 250,000 troedfedd sgwâr o ddatblygiad hamdden.
  • Gweithredu dros Awdurdodau Lleol ar gytundebau datblygu cymhleth a gynlluniwyd i hwyluso datblygiadau manwerthu ar hen ardaloedd diwydiannol/diffaith ac ymdrin â materion ategol amrywiol megis mannau agored cyhoeddus, rhandiroedd statudol a adleoli tenantiaid.

Cysylltiadau Allweddol

Isod mae rhestr o'n cyfreithwyr a all eich helpu gyda'r Sector Busnes Awdurdodau Lleol...