Vacancies

Paragyfreithiwr Ymgyfreitha

Lleoliad: Abertawe

Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad

Mae’r buddiannau’n cynnwys: Yswiriant Meddygol Preifat, Yswiriant Bywyd, Rhaglen Llesiant Gweithwyr, Pensiwn y Cwmni, Tâl Salwch, Parcio ar y Safle, Hawl Gwyliau Gwell

Swydd: Llawn Amser a Pharhaol

Rydym yn un o gwmnioedd cyfreithiol blaenllaw y Legal500 ac rydym yn chwilio am Paragyfreithiwr  brwdfrydig i gynorthwyo ein hadran Ymgyfreitha.  Mae’n gyfle gwych i ymuno â chwmni sy’n ceisio datblygu eu gweithwyr a sicrhau dilyniant gyrfa llwyddiannus iddynt. Mae’r cwmni’n gweithio gydag ystod eang o gleientiaid yn y sector corfforaethol a chyhoeddus yn ogystal ag unigolion, ac mae gennym swyddfeydd yn Abertawe a Chaerfyrddin.  Mae hon yn rôl lefel mynediad i ymgeisydd sy’n gryf yn academaidd, neu rywun sy’n meddu ar brofiad cyfreithiol ac yn edrych am rôl yn ein tîm ymgyfreitha.

Y Rôl:

Bydd y rôl hon yn bennaf yn cynnwys gwaith Troseddu Rheoleiddio a chyfreithiol Coler Gwyn. Mae gan y tîm statws cenedlaethol sy’n “arwain y farchnad” (Legal 500 2023) yn yr adrannau gorfodi a rheoleiddio safonau gofal, gweithredu ar ran darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion yn ogystal ag addysg blynyddoedd cynnar.  Byddwch yn cynorthwyo cyfreithwyr yn yr adran ymgyfreitha ar bob math o faterion yn cynnwys:

  • Cyfarfod â chleientiaid newydd (fel arfer yn rhithiol), cymryd cyfarwyddiadau; cychwynnol ac ymdrin ag unrhyw ymholiadau sydd ganddynt;
  • Gofyn am sylwadau cleientiaid ar dystiolaeth a pharatoi datganiadau tystion;
  • Tasgau ymchwilo a pharatoi nodiadau briffio ar gyfer cyfreithwyr a chyd-weithwyr;
  • Paratoi a rheoli bwndeli o’r Llys/Tribiwnlys ar ffurf copiau caled a fformat electronig;
  • Rheoli achosion ar blatfformau cyffredin digidol GLlTEM ar gyfer achosion Trosedd a Theulu;
  • Delio gyda staff a gweithwyr y Llys a’r Tribiwnlys i reoli achosion cyfreithwyr y cwmni a chyd-weithwyr;
  • Cysylltu gyda chwnsler cyfreithiol – paratoi briffiau a mynychu’r llys gyda chwnsler cyfreithiol a mynychu cynhadleddau;
  • Cydgysylltu â’r cwnsler cyfreithiol a’u diweddaru fel bo’n briodol;
  • Diweddaru cleientiaid yn rheolaidd a delio gydag unrhyw ymholiadau yn ystod yr achos;
  • Gweithio dan bwysau’n effeithiol ac i derfynau amser llym;
  • Cefnogi cyfreithwyr a chyd-weithwyr yn yr adran fel y bod angen a’r gallu i weithio’n hyblyg.

Ymgeiswyr

Rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr sydd yn rhagorol yn academaidd ac yn benodol wedi astudio’r Gyfraith ar lefel gradd ac wedi chwblhau  naill ai’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu’r asesiadau SQE 1 & 2.  Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith perthnasol a phriodol mewn rôl debyg neu gyda chefndir cyfreithiol.

Mae sgiliau trefnu a TG rhagorol yn hanfodol ynghyd â llygad craff yn y gweithlu.  Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n medru dysgu ac addasu yn gyflym gyda pharodrwydd i gynorthwyo’r tîm mewn modd effeithlon wrth ymgymryd ag amryw o dasgau

Os oes gennych ddiddordeb i ymgeisio am y swydd hon, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at Karen Davies, drwy e-bost at [email protected]

Os byddwn yn derbyn nifer ddigonol o geisiadau cyn y dyddiad cau, bydd modd i ni gau’r hysbysiad cyn y dyddiad cau isod.

Dyddiad cau

31 Mawrth 2023

Dim asiantaethau os gwelwch yn dda