Vacancies

Cyfreithiwr dan Hyfforddiant

BELLACH YN RECRIWTIO

*CYFREITHWYR DAN HYFFORDDIANT AR GYFER 2025*

Mae gennym gyfle cyffrous i bedwar Cyfreithiwr dan Hyfforddiant ar gyfer cytunebdau hyfforddiant dwy flynedd i ddechrau ym mis Medi 2025.

Beth gallwn gynnig ?

  • Pedwar sedd chwe mis o hyd. Hyfforddiant o fewn adrannau sy’n arbenigo mewn meysydd amrywiol o’r gyfraith yn cynnwys cyfraith Cyflogaeth, Ymgyfreitha,  Eiddo Masnachol a Chyfaith Corfforaethol a Masnachol.
  • Cyfrifoldeb. Byddwch yn derbyn cyfrifoldeb o’r cychwyn cyntaf er mwyn cael y profiad gorau a phrofiad ymarferol er mwyn sicrhau eich llawn botensial..
  • Cefnogaeth. Goruchwyliaeth ac arweiniad gan gyfarwyddwyr a chyfreithwyr profiadol i sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau perthnasol i fod yn gyfreithiwr masnachol ynghyd â mentora gan gyfreithwyr o fewn y cwmni.
  • Ansawdd Bywyd. Rydym yn annog ein gweithwyr i gael cydbwysedd synhwyrol rhwng bywyd personol a gwaith ac inni’n gwerthfawrogi pwysigrwydd iechyd a lles ein gweithwyr.
  • Buddiannau i’r staff. Yn cynnwys cyflog cystadleuol, gofal iechyd preifat, cynllun pensiwn, yswiriant bywyd, tâl salwch uwch a nifer o ddiwrnodau gwyliau uwch yn ogystal â pharcio am ddim ar y safle.

Pam Morgan LaRoche?

Rydym yn gwmni cyfreithiol masnachol blaenllaw gyda swyddfeydd yn Abertawe a Chaerfyrddin. Mae gennym ystod eang o gleientiaid yn amrywio o unigolion  llewyrchus ynghyd â busnesau bach a chanolig i gwmnïau rhyngwladol.  Cynnigir profiad i ddelio gyda materion  cleientiaid sydd â phroffil uchel yn ogystal â gwaith sy’n heriol ac yn ddiddorol ac hynny wrth weithredu o fewn amgylchedd cyfeillgar a chydweithredol.

Rydym wedi ein henwi yn y “Legal 500” ac wedi bod yn gweithredu ers dros 20 mlynedd. Rydym yn ymfalchïo mewn meithrin a datblygu ein gweithlu ac wedi ymrwymo i gefnogi ein Cyfreithwyr dan Hyfforddiant gyda’r nôd iddynt igymhwyso fel Cyfreithwyr gyda ni. Yn dilyn cymhwyso, mae’r nifer gyfreithwyr dan hyfforddiant sydd wedi parhau gyda ni’n rhagorol dros y blynyddoedd diwethaf ac inni’n eu hystyried . fel arweinwyr posibl y cwmni yn y dyfodol.

Beth rydym yn chwilio amdano?

Rydym yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr o cefndir sydd â safon uchela byddwn yn edrych yn ffafriol, ond heb fod yn gyfyngedig, ar ymgeiswyr sydd:

  • Meddu ar record academaidd gref gydag o leiaf 3 chanlyniad Safon Uwch da, gradd 2:1 (neu ragfynegiad 2:1) (neu gyfwerth) mewn unrhyw ddisgyblaeth gradd ac os yw’n berthnasol Teilyngdod (neu uwch) o ysgol y gyfraith (GDL, LPC/SQE)
  • Yn ymwybodol o fascnach cyfredol , yn bragmatig ac yn llawn dychymyg
  • Mwynhau gweithio mewn amgylchedd cydweithredol yn ogystal â synnwyr cyffredin  i weld y darlun ehangach
  • Yn awyddus i ddatblygu gyrfa hirdymor yn Abertawe a Gorllewin Cymru

Dylai ymgeiswyr anfon eu CV gyda llythyr eglurhaol trwy e-bost at Karen Davies, Gweinyddwr Adnoddau Dynol trwy [email protected]

Dyddiad cau: 31 Awst 2023.

Hoffem nodi bod gennym yr hawl i gau’r hysbyseb yn gynnar os derbynnir nifer digonol o geisiadau.