Lleoliad: Abertawe a Chaerfyrddin
Y Rôl:
Mae gennym gyfle cyffrous i Gyfreithiwr Cyfraith Teulu i ymuno gyda’r Tîm Cyfraith Teulu ac Ymgyfreitha. Mae’r tîm yn darparu cyngor ar amrywiaeth eang o faterion teuluol preifat gwerth net uchel, gan gynnwys materion megis ysgariad a rhwymedi ariannol, materion plant a gwaharddeb, gwahanu, anghydfodau cyd-fyw a chytundebau cyn ac ar ôl priodi.
Bydd gofyn i chi gynorthwyo’r adran i gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau priodol. Bydd hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Cwrdd a chfarfod â chleientiaid newydd, cymryd cyfarwyddiadau a delio gyda unrhyw ymholiadau sydd ganddynt.
- Darparu cyngor ac arweiniad cyfreithiol arbenigol i gleientiaid.
- Drafftio dogfennau cyfreithiol, gan gynnwys ffurflenni’r llys, datganiadau tystion a chytundebau
- Rheoli achosion trwy borth ar-lein GLlTEM.
- Cyfarwyddo Cwnsler cyfreithiol – paratoi briffiau a mynychu’r Llys gyda Chwnsler cyfreithiol a mynnychu cynhadleddau.
- Gweithio tuag at derfynau amser heriol a llym.
- Cynnal trafodaethau a chynrychioli cleientiaid yn y llys pan fo angen.
- Datblygu a chynnal perthnasoedd cryf gydachleientiaid, cydweithwyr ac unigolion proffesiynol eraill.
- Parhau i ddiweddaru eich hunain o newdiadau a datblygiadau o fewn cyfraith teulu.
Yr Ymgeisydd:
Fel canllaw, oherwydd natur y gwaith dan sylw, rydym yn chwilio am gyfreithiwr gydag o leiaf 3 blynedd PQE yn ogystal â phrofiad mewn materion ysgariad a phlant. Bydd gofyn i chi reoli eich llwyth gwaith eich hun yn briodol. Dylid feithrin sgiliau trefnu a sgiliau TG rhagorol ynghyd â fod â llygad craff am manylyn lleiaf.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu arbennig yn ogystal â meddu ar sgiliau rhagorol pan yn delio gyda chleientiaid ar bob achlysur. Gan weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwyr, bydd angen i chi feddu ar sgiliau gweithio o tîm arbennig, cymhelliant rhagorol, yn ogystal â chwant i ddatblygu busnes ac ymwybyddiaeth fasnachol gref. Bydd cynorthwyo i ddatblygu a chynnal perthnasoedd allweddol â chleientiaid yn hollbwysig.
Cyflog: Cyflog cystadleuol yn ddibynol ar brofiad
Mae’r buddiannau yn cynnwys: Hawl gwyliau hael, Gweithio Hybrid, Gofal Iechyd Preifat, Yswiriant Bywyd, Rhaglen Cymorth / Llesiant i Weithwyr, Pensiwn, Parcio ar y Safle, Digwyddiadau Cymdeithasol, cyfleoedd datblygu DPP, dilyniant gyrfa
Swydd: Llawn Amser a Pharhaol (Bydd oriau Rhan Amser hefyd yn cael ei ystyried)
Os oes gennych ddiddordeb i gyflwyno cais am y swydd hon, anfonwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol at Karen Davies, drwy e-bost at [email protected] neu am drafodaeth gyfrinachol am y rôl, cysylltwch ag Andrew Manners ar 01792776872.
Os byddwn yn derbyn nifer ddigonol o geisiadau cyn y dyddiad cau, bydd hawl gennym i ni gau’r hysbysiad yn gynnar.